Hanes

Mae cystadleuaeth saith bob ochr Aberaeron yn hawlio’i lle yn chwedloniaeth  rygbi Cymru. Yn ystod y saithdegau, Aberaeron oedd y lle i fod ddiwedd Awst os am weld rhai o enwogion y gêm yng Nghymru. Dyma rhai lluniau i ddod â’r atgofion yn ôl. Diolch i Jim yn y Black Lion, Aberaeron am gael eu defnyddio yma – mae casgliad gwych o luniau ar y wal yn y Black – esgys i chi gael peint wrth eu hastudio.

Dyma Brynmor Williams yn ennill y wobr am chwaraewyr mwyaf disglair y gystadleuaeth yn 1974, gan dderbyn y wobr gan Rex Willis. Mae wyr Rex nawr yn chwarae i dîm dan 15 Aberaeron.

JPR Williams yn gapten ar dîm y Voyagers, enillwyr y gystadleuaeth yn 1975. Erbyn hynny wrth gwrs, ‘roedd JPR yn fyd enwog ac eisoes wedi cyflawni llawer ar feysydd ar hyd a lled y byd, ond mae i’w weld yn hapus iawn fan hyn yn ennill y cwpan yn Aberaeorn a’i dderbyn oddi wrth Handel Rogers, Llywydd Undeb Rygbi Cymru. Sylwch ar y teis yn y dorf – heb weld yr un tei yn 7s Aberaeron ers sbel!

Yn 1978, Caerdydd gododd y cwpan. Alan Phillips, rheolwr tîm Cymru sydd ar y blaen ar y dde. Bu bron i’r tîm yma gael eu curo gan Aberaeron yn y cwarteri – 11-8 oedd y sgor yn erbyn y tîm lleol oedd yn cynnwys Alun Rees, Glyn Castell, Peter Merrit, Dai Gatehouse (llanwch y bylchau). Bu ymdrech i gael llun o’r arwyr lleol ond dorrodd y camera.

Tro Pontypridd oedd hi i gipio’r tlws yn 1979 gyda Tommy David yn arwain y gad. 
Erbyn y 90au a dyfodiad y gêm proffesiynol, prin oedd y chwaraewyr rhyngwladol fu’n ymddangos yn y gystadleuaeth.
Erbyn hyn, mae’r rygbi’r un mor gyffrous,a’r parti sydd yn mynd ochr yn ochr â’r chwarae yr un mor fyrlymus.